Amcanion yr Ysgol

Dyma amcanion yr ysgol:

  • Darparu addysg gyflawn ar gyfer pob disgybl gan roi pwyslais arbennig ar ddefnydd o’r iaith Gymraeg ac ymwybyddiaeth o Gymreictod.
  • Helpu pob disgybl i ddatblygu'n aelod cyfrifol ac aeddfed o gymdeithas ac i ymarfer hunan-ddisgyblaeth mewn gwaith a chwarae.
  • Helpu pob disgybl i ddysgu parch at werthoedd moesol a chrefyddol, a bod yn oddefgar tuag at eraill.
  • Helpu pob disgybl i werthfawrogi a chyfranogi o draddodiadau a diwylliant ei ardal a'i wlad, ac i fwynhau a deall traddodiadau diwylliannau.
  • Helpu pob disgybl i ddatblygu cymwyseddau ieithyddol (yn y Gymraeg, Saesneg ac ieithoedd eraill), rhifyddol, gwyddonol, corfforol, rhesymegol ac ymarferol, ac i feithrin ei ddefnydd o'i ddychymyg a'i alluoedd creadigol.
  • Helpu pob disgybl i gyrraedd ei safon uchaf o gyrhaeddiad ac i fedru perthnasu a chymhwyso ei ddysg a'i ddoniau ar gyfer gwaith, gyrfa a hamdden mewn cymdeithas sy'n newid yn gyflym.
  • Helpu pob disgybl i ddatblygu ymwybyddiaeth o'i amgylchedd a dangos parch tuag ato o fewn yr ysgol, yn ei fro ei hun a thu hwnt.

Digwyddiadau