Gwasanaeth Cwnsela
Gwybodaeth i bobl ifanc
Beth yw cwnsela?
Y cyfle i siarad yn gyfrinachol gyda chwnselydd cymwys am y pethau hynny sydd yn dy boeni.
Mae cwnselwyr wedi'u hyfforddi i wrando heb feirniadu ac i helpu pobl i gael trefn ar eu meddyliau a'u teimladau ynghylch beth bynnag sy'n peri pryder iddynt. Meddylia am jig-so cymhleth lle mae'n anodd canfod unrhyw ddarn sy'n cyfateb a darn arall. Mae siarad am broblem mewn sesiwn gwnsela fel didoli'r holl ddarnau er mwyn gallu creu darlun sy'n gwneud mwy o synnwyr i ni.
Ystyr cwnsela yw dy helpu di i ddatrys pethau drosot ti dy hun, gan wneud penderfyniadau a'th helpu di i edrych ar bethau'n wahanol. Gall dy helpu i deimlo'n well amdanat ti dy hun.
Pa fath o bethau fydd pobl yn siarad amdanyn nhw mewn sesiynau cwnsela?
Beth bynnag sydd o bwys iddyn nhw. Beth bynnag sy'n eu poeni.
"Mae fy rhieni yn gwahanu. Ai fy mai i yw hyn?"
"Mae hi fel pe bai gan bawb arall lwyth o ffrindiau. Does gen i ddim. Beth sy'n bod arna i?"
"Dwi'n poeni gan fy mod i'n teimlo fel gwylltio gyda phobl drwy'r amser."
"Mae bwlis yn fy mhoeni i bob dydd. Dwi ddim yn gwybod beth i'w 'neud"
"Mae gen i ormod o waith ysgol. Dwi'n teimlo yn waeth ac yn waeth wrth i'r gwaith pentyrru."
"Mae ... wedi marw ac nad ydw i erioed wedi teimlo mor ddrwg o'r blaen. Mae arna i ofn y bydda i'n teimlo fel hyn am byth."
"Dwi ddim yn gwybod ble i ddechrau. Dwi jyst ddim yn teimlo yn iawn. Mae gen i feddyliau / teimladau nad yr ydw i'n deall. Mae popeth yn anodd."
"Dwi'n ffraeo gyda'm rhieni drwy'r amser. Dwi eisiau iddyn nhw adael i fi wneud beth yr ydw i eisiau gwneud."
Cyfrinachedd
Mae popeth sydd yn cael ei drafod mewn sesiwn cwnsela yn breifat a chyfrinachol.....Mae hynny'n golygu mai dim ond ti a'r cwnselydd fydd yn gwybod amdano.
Dyma gyfle i ti fod yng nghwmni rhywun sydd yno i ti a neb arall. Yn amlwg, os wyt ti am drafod yr hyn a drafodwyd yn y sesiwn gwnsela ag unrhyw un arall, dy benderfyniad di yw hynny. Ond petai'r cwnselydd yn credu bod perygl i ti gael dy niweidio, yn gyntaf os oes bosib byddai'r cwnselydd yn trafod hyn gyda thi. Wedyn, yn Ysgol Penweddig os oes rhaid diogelu plentyn mi fyddai'r cwnselydd yn siarad gyda Mme Izri, Dirprwy a Swyddog Amddiffyn Plant.
Eisiau gweld y cwnselydd?
Mae Nicola Dunkley, cwnselydd, yn gweithio yn Ysgol Penweddig ar ddydd Mercher a dydd Iau.
~Rwyt ti'n gallu galw mewn i'r Swyddfa Asiantaethau Allanol sydd ar y chwith wrth ben y grisiau wrth y ffreutur.
~Neu ti'n gallu tecstio 07583987187 i drefnu apwyntiad.
~Neu ti'n gallu gofyn i athro/ athrawes trefnu i ti weld y cwnselydd.
~Mae'n iawn cwrdd gyda Nicola cyn i ti benderfynu a wyt eisiau sesiwn cwnsela neu beidio.
Mae cwnsela yn wirfoddol. Ti piau'r dewis ynglŷn â derbyn y gwasanaeth neu beidio. Beth bynnag gwnei di benderfynu - bydd hynny'n iawn. (Cofiwch: mae'n amhosib gwybod a fydd rhywbeth yn eich helpu chi heb drio fo!)
Sylwadau gan ddisgyblion (sydd wedi defnyddio gwasanaeth cwnsela yn ysgolion uwchradd gwahanol dros Gymru)
"Mae mynd i'r sesiynau cwnsela wedi fy helpu i'n fawr. Rwyf wedi gallu trafod fy mhroblemau yn lle'u cloi nhw i mewn, fel yr oeddwn i'n arfer ei wneud. Mae'r sesiynau wedi bod o gymorth mawr iawn i mi."
"Gwnaeth cwnsela fy helpu i ddeall fy mhroblemau a'u goresgyn."
"Mae cwnsela wedi fy helpu i fod a mwy o hyder ynof fi fy hun."
"Mae cwnsela wedi fy helpu i'n wirioneddol i siarad mwy a'm teulu a phobl o'm hamgylch."
"Dydw i ddim yn teimlo cywilydd wrth gyfaddef fod angen cymorth arna i, oherwydd rwy'n gwybod nawr nad fi yw'r unig un."
Gwybodaeth i rieni
Pam cael cwnselydd mewn ysgol?
Mae darparu gwasanaeth cwnsela mewn ysgol yn dod â chwnsela at bobl ifanc mewn man sydd yn gyfarwydd, yn ddiogel ac yn sicr. Os bydd pobl ifanc yn gallu derbyn cefnogaeth emosiynol gan gwnselydd cymwys a phroffesiynol bydd ganddynt gyfle gwell i gyflawni'u potensial. Os oes gan person ifanc pen llawn pryderon, nad oes le i feddwl am beth mae nhw'n trio dysgu. Mae cwnsela yn gallu helpu dy fab neu ferch i dadbacio unrhywbeth sydd yn eu poeni nhw a wedyn gall bod yn haws canolbwyntio ar waith a cofio bethau mae nhw yn trio i'w dysgu.
Cyfrinachedd
Mae cwnsela'n gyfle i siarad am bryderon heb ofni y byddan nhw yn cael eu trafod yn rhywle arall. Mae hyn yn golygu na fydd y gwaith yn cael ei drafod gyda'r rhieni, oni bai fod y plentyn neu'r unigolyn ifanc yn gofyn am hynny neu'n rhoi caniatâd. Gall hyn fod yn anodd i rieni' i dderbyn ar brydiau, ond mae sicrhau cyfrinachedd gwaith yn hanfodol bwysig wrth ennyn ymddiriedaeth fel bod y bobl ifanc yn teimlo'n hyderus i siarad yn agored ac yn rhydd am yr hyn sy' eu poeni.
Fodd bynnag, pan fydd hi'n ymddangos bod disgybl yn agored i niwed sylweddol gall fod yn briodol ceisio cymorth gan asiantaethau eraill er mwyn ei ddiogelu. Byddai'r cwnselydd yn trafod hyn yn gyntaf gyda'r disgybl dan sylw os oes bosib.
Arolygir pob cwnselydd sy'n gweithio gyda phobl ifanc, i sicrhau ansawdd ei gwaith, a gwneir hyn mewn modd cyfrinachol.
Beth os nad wyf yn dymuno i'm plentyn weld cwnselydd?
Os bydd plentyn neu unigolyn ifanc yn gwneud cais am gwnsela ac yn gallu deall natur y broses, mae ganddynt hawl i fynd at gwnselydd. Ni chaiff rhieni na gofalwyr eu hamddifadu o'r hawl honno. Byddai'n well gennym, fodd bynnag, gael eich cefnogaeth chi yn y gwaith, ac rydym yn fwy na pharod bob amser i drafod unrhyw bryderon sydd gennych ynglŷn â'r syniad o gwnsela.
Beth os bydd y plentyn/unigolyn ifanc yn gwrthod derbyn cwnsela?
Fel gydag oedolyn, mae penderfyniad plant neu bobl ifanc i fanteisio ar gwnsela ai peidio'n gwbl wirfoddol.
Alla i fod yn gefn i'r gwaith cwnsela?
Gallwch, ac rydyn ni'n croesawu hynny. Mae ein profiad ni'n tystio i'r ffaith mai'r peth gorau y gall rhieni'i wneud er mwyn helpu yw dangos eu bod yn derbyn cwnsela fel gweithgaredd normal a buddiol, a dangos diddordeb os bydd eu mab/merch yn dymuno son am y peth, ond peidio â phwyso am wybodaeth os mai fel arall y mae hi. Rydyn ni'n cydnabod nad tasg hawdd mo hon, ac mae hi'n eithaf naturiol i rieni deimlo'n bryderus ynglyn a'r hyn a ddywedir yn y sesiynau.
Ein gobaith ni bob amser yw y bydd siarad â chwnselydd yn arwain at fod yn fwy agored gyda rhieni a theuluoedd, ond bydd angen i chi aros ychydig efallai cyn i hyn ddigwydd.
Ydy'r ffaith fod fy mhlentyn yn dymuno gweld cwnselydd yn golygu fy mod i fel rhiant yn methu?
Nac ydy, yn bendant! Bydd pob un ohonom o dro i dro yn ei chael hi'n anodd trafod pethau sy'n ein poeni gyda'r rhai sydd agosaf atom. Efallai bod hynny'n digwydd yn aml am ein bod yn awyddus i beidio â phoeni'n anwyliaid, neu am fod angen help arnom i drin a thrafod pethau gyda rhywun arall oddi allan i'r teulu. Ni fydd y cwnselydd yn eich beirniadu chi na'ch plentyn, ond yn ceisio 'i helpu i ddatrys unrhyw broblem sy'n peri pryder.
Sut bydd disgybl yn cael ei gyfeirio at y Gwasanaeth Cwnsela?
Gall hyn digwydd drwy system fugeiliol yr ysgol, drwy bennaeth blwyddyn eich plentyn, neu gall fod yn gais gennych chi neu gan eich plentyn sydd yn gallu ei gyfeirio ei hun.
Gweithdrefnau Diogelu Data a Gwerthuso
Cedwir pob gwybodaeth ynghylch y gwaith cwnsela y mae ein staff yn ei wneud yn ddiogel gan y Gwasanaeth Cwnsela yn unol â'r rheoliadau cyfredol ynglyn a diogelu data. Ar ôl i'r cwnsela ddod i ben bydd eich plentyn yn derbyn ffurflen werthuso i'w llenwi'n ddienw a 'i dychwelyd. Mae hyn yn rhoi gwybod inni i ba raddau yr ydyn ni'n llwyddo i helpu'r plant a'r bobl ifanc a welwn. Os oes achos cwyno, mae croeso i chi neu'ch plentyn gysylltu â'r cwnselydd, neu Mme Izri neu Phil Layton, Area 43, sydd yn rheoli'r gwasanaeth cwnsela mewn ysgolion Ceredigion. (Phil Layton: 01239 614566 neu dropin@area43.co.uk )
Nicola Dunkley (Cwnselydd) - 07583987187
Area 43 - Rhadffôn 0800 8497979 (efallai y codir tâl o rai ffonau symudol)