Cynllun Ysgolion Iach
Mae Ysgol Penweddig yn aelod gweithgar o Gynllun Ysgolion Iach - Rhwydwaith Cymru. Mae ysgol iach yn ysgol sy’n mynd ati i hybu a diogelu iechyd a lles corfforol, meddyliol a chymdeithasol ei chymuned trwy gymryd camau cadarnhaol megis llunio polisïau, gwneud gwaith cynllunio strategol a datblygu staff, mewn perthynas â chwricwlwm, ethos ac amgylchedd ffisegol yr ysgol a’i chysylltiadau â’r gymuned.