Ysgol Gyfun Gymunedol

Penweddig

Penweddig2014_km076.jpgPenweddig2014_km137.jpgPenweddig2014_km161.jpg

Am wybodaeth ynglŷn â chynlluniau ail agor yr ysgol ewch i'n tudalen COVID-19 yma.

Mae’r wefan wrthi'n cael ei diweddaru ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra.

Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig

Croeso gan y Pennaeth

Croeso cynnes iawn i chi i wefan Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig. Mae’r ysgol yn gymuned Gymreig sydd yn sicrhau bod ei disgyblion yn datblygu yn ddinasyddion cyfrifol a gweithredol sy’n deall a pharchu eraill, beth bynnag eu cefndir. Magwn ymwybyddiaeth ddisgyblion o ddiwylliant, iaith a hanes eu hardal a’u gwlad. Ceisiwn ymestyn eu gorwelion i weld cyfleoedd byd-eang a magwn uchelgais ym mhob aelod o gymuned yr ysgol - disgwylir iddynt anelu’n uchel a gweithio’n gyson tuag at y nod er mwyn datblygu a llwyddo.

Y Gymraeg yw iaith bob dydd yr ysgol a chyfrwng y rhan fwyaf o’r gwersi.  Mae cynnal Cymreictod o fewn yr ysgol, y gymuned leol a thu hwnt yn rhan ganolog o waith yr ysgol. Gweithiwn i gefnogi pob disgybl wrth iddynt anelu at y safonau uchaf o gyrhaeddiad academaidd, creadigol, diwylliannol a galwedigaethol. Cefnogwn ddatblygiad moesol, ysbrydol a chorfforol ein disgyblion yn yr ysgol ac anogwn ddisgyblion i gyfrannu at eu cymunedau tu allan i’r ysgol. Caiff pob disgybl gyfleoedd ardderchog i ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer dyfodol llwyddiannus. Mae pob disgybl yn unigolyn gyda dyheadau a breuddwydion gwahanol - ein rôl ni yw eu cynorthwyo i wireddu’r rhain.

Ar y sylfeini cadarn hyn, paratoa’r ysgol ei phobl ifanc ar gyfer cymryd eu lle yn eu cymunedau boed y rheini yma yng Ngogledd Ceredigion neu ym mhendraw’r byd.

Dr Rhodri Thomas

Pennaeth

 

Datganiad

Mae Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig yn gwbl ymrwymedig i gefnogi disgyblion ac oedolion beth bynnag eu cefndir, tras neu dueddiad rhywiol yn ddiwahân. Byddwn bob amser yn ymdrechu i ystyried barn a dymuniadau pob un sy’n rhan o gymuned yr Ysgol gan herio unrhyw arferion neu bolisïau sy’n gwahaniaethu rhwng aelodau o’r gymuned, yn atgyfnerthu unrhyw stereoteip cymdeithasol, neu yn achosi aflonyddwch i unrhyw aelod o’r gymuned. Byddwn bob amser yn ceisio gweithredu fel cymuned i wneud pawb sy’n rhan o’r Ysgol yn gyfforddus ynddi fel y medrant gael y gorau o’u haddysg mewn awyrgylch agored, goddefgar a chynhaliol.

Newidiadau i amserlen yr Ysgol

Mae'r ysgol wedi newid trefn ein hamserlen fel bod amser cinio blwyddyn 7 ac 8 rhwng 12:00 a 12:50 a chinio blwyddyn 9-13 rhwnng 12:50 a 13:40. Manteision y drefn newydd yw:

  • Llai o amser ciwio am ginio i ddisgyblion;
  • Cyfleoedd i gynnal clybiau a gweithgareddau amser cinio;
  • Mwy o gyfnodau ar yr amserlen i helpu lleihau gwrthdaro â gwersi'r chweched ddosbarth.

Mae'r cynllun eisioes wedi bod yn llwyddiannus a byddwn yn gofyn barn y disgyblion am y drefn newydd ar ddiwedd y tymor er mwyn ei wella eto.

Digwyddiadau